Dear Listers,
I have received photocopies from the NLW and of course they are in Welsh
which I cannot read. If someone is willing to send me a translation I would
be thrilled! I won't be able to type the whole thing at one sitting but here
goes...
"Yr oedd fy nhad ugain mlynedd yn hyn na fy mam, ac felly yn hen lencyn pan
briododd. Gwr byr o gorffolaeth, yn grwn a chnawdol yn yr adeg yr ydwyf fi
yn ei gofio; croen twywyll, Llygaid bychain bywiog, tywyll eu lliw, gwallt
du fel y fran, yn fodrwyau man filoedd gylch ei ben. Golwg dramoraidd iawn
oedd arno ar lawer golwg, yn fwy o Ffrancwr na Phrydeiniwr o ran corph ac
annianawd.
Credaf iddo droi dros ddrws ei gartre i ennill ei damaid yn lled ieuanc, a
rhaid ei fod wedi gwasanaethu llawer blwyddyn yn nechreu ei oes. Gwn iddo
fod flynyddau gyda rhyw Berson yn Llangower. Cafodd allan, mae'n amlwg, fod
y gwaith yn yagafnach, a'r bwrdd yn well, yn nhy'r Offeiriad nac yn y
ffermdai. Nid oedd ganddo gorph rhy dararn, efallai, er y clywais ei fod yn
son am galedwaith y bu drwyddo. Ond yr oedd o ran ei feddwi a'i anianawd yn
perthyn, fel yr Iddewon, i'r bobl sydd yn cael eu ywoliaeth drwy rywbeth
heblaw ceibio'r ddaear. 'r lliaws cyffredin, heb fawr addyag, yroedd y dorau
i alwedigarthau felly yn yehydig ac anhawdd eu hagor. Y ffordd rwyddaf
ydoedd prynu a gwerthu anifeilaid a datblygu'n borthmon. Felly fu ei hanes,
a rhaid ei fod wedi cychwyn ar scale fechan iawn. Ymddengys iddo o dipin i
beth ddod yn brynwr go helaeth. Ai am flynyddoedd lawer yn fynch i Loegr ac
yr oedd yn bur gydnabyddus yn siroedd canol y wiad a'u refydd; ac yn gynefin
& Llundain. Medrai siarad Saesneg, O'r fath ag ydoedd, a gallai yagrifnnu
Cymraeg yn eiha. Nis gwn a fu mewn yagol erioed. Digon prin.
Thanks so much to anyone willing to give it a try.
Sincerely,
Gwen Cunningham
Connecticut
gwenny(a)snet.net