Neges 1.
Tybed a all rhywun fy helpu ynglyn â John Roberts, Ty`n Pwll, Bodwrog a aeth i`r U.D.A. a
threulio oes yno gan ddychwelyd i Fôn ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf (oddeutu 1920?) a chodi ty
yn y dull ameircanaidd iddo`i hun yn Nhregele, ger Cemaes, "Tremont" (Vermont??)
a thy i`w howscipar, "Brooklyn". Ymddengys mai hen lanc ydoedd, neu wr gweddw,
di-blant. Mae gwreiddiau teulu John Roberts yn Llanfechell. Ym mynwent eglwys Llanfechell
y mae bedd John (nid yr un John Roberts) ac Ellen Roberts, Ty`n Pwll, Bodwrog. Roedd
ganddyn nhw ferch, Catherine a briododd Owen Owens, Talcen Dail, Bodwrog a hefyd fab yn
dwyn yr enw John Roberts (un arall eto), saer a dreuliodd ei oes yn
Lerpwl. Os y gall rhywun daflu goleuni ar unrhyw agwedd i`r darlun uchod, byddaf yn dra
diolchgar.
Neges 2.
Credir bod Jane (1856-1934) priod John Williams (1855-1933), Ynys Goch (Cae Cam gynt),
Cefniwrch, plwyf Llanddyfnan yn dod o Felin, Cemaes. Tybed a oedd yn aelod o deulu
Rowlands y melinydd y mae dau fedd i`r teulu yn eglwys Llanbadrig, neu a oedd yn perthyn i
deulu oedd yn y felin o`u blaenau hwy?
- yr Hughesiaid, neu`r Jonesiaid o`u blaen hwy? Tybed a all rhywun fy helpu? Diolch yn
fawr.
John Owen.